POLISI PREIFATRWYDD

Ein manylion cyswllt

Enw: Pwrpas
Cyfeiriad: Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BB
Cyfeiriad E-bost: info@pwrpas.com

Y math o wybodaeth bersonol a gasglwn

Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth ganlynol:

Manylion adnabod personol, cysylltiadau a nodweddion gan gynnwys enw, rhif cyswllt a chyfeiriad e-bost.

Sut yr ydym ni’n cael y wybodaeth personol a pham y mae gennym ni

Mae’r rhan fwyaf o'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu yn cael ei rhoi’n uniongyrchol i ni gennych chi am un o'r rhesymau canlynol:

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni er mwyn rhoi sylw i’ch ymholiad a roddwyd ar ein gwefan.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:

Eich caniatâd. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â: info@pwrpas.com.

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel ar gyfrifiadur a warchodir gan gyfrinair.

Rydym yn cadw eich enw, eich rhif cyswllt a'ch cyfeiriad e-bost tra byddwch yn gwsmer. Byddwn wedyn yn gwaredu eich gwybodaeth drwy ei ddileu o’n rhestr cysylltiadau.

Eich hawliau diogelu data

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:

Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gywiro - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Eich hawl i ddileu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i drosglwyddo data - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb i chi.

Cysylltwch â ni: info@pwrpas.com os hoffech wneud cais.

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch anfon eich cwyn atom: info@pwrpas.com.

Mae'r polisi hwn yn weithredol o 29 Hydref 2020.

Ein Noddwyr

A.D. Wheeler
Gatewen Training Services
A.N. Richards
Baabaa Design
24-7 Recruitment Services
Challenger Mobile Communications
Platts Agriculture
Fibrax
Mindful Training
McLintocks Accountants
Jolliffes Solicitors
Cambria Dental Practice