Amdanom ni

Prosiect lleol yw Pwrpas, sydd wedi’i sefydlu i helpu dynion i wella’u hiechyd meddwl. Bydd yn gweithredu fel hwb a'i brif nod yw:

  • Codi ymwybyddiaeth o'r heriau iechyd meddwl sy'n wynebu dynion.

  • Ymgysylltu â dynion a hybu sgwrs.

  • Cyfeirio dynion at gymorth priodol.

Bydd Pwrpas yn cyflawni'r uchod drwy wneud y canlynol:

  • Cydweithio â chyflogwyr lleol a phartneriaid arbenigol.

  • Creu gwefan a fydd yn bwynt cyfeirio unigol, sy’n cynnwys gwybodaeth am achosion a symptomau iechyd meddwl gwael ynghyd â ffynonellau cymorth.

  • Hwyluso hyfforddiant i rwydwaith lleol o gyfeillion iechyd meddwl ac Ymgeleddwyr Iechyd Meddwl.

  • Cefnogi’r rhwydwaith hwn drwy ddarparu digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd.

OEDDECH CHI'N GWYBOD?

  • Mae 12.5% o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn dioddef gyda phroblem iechyd meddwl.

  • Dim ond 35% o ddynion sy’n ceisio cael cymorth gyda'u hiechyd meddwl.

  • Dynion yw 3 o bob 4 o hunanladdiadau.

  • Yn 2018 roedd 6,154 o hunanladdiadau yn y Deyrnas Unedig - 16 y dydd!

  • Hunanladdiad yw’r lladdwr mwyaf ymysg dynion o dan 45 oed, yn y Deyrnas Unedig, mwy na chanser neu glefyd y galon.

  • Mae alcohol yn gyfrifol am 33,000 o farwolaethau'r flwyddyn yn y Deyrnas Unedig.

  • Mae 4.3% o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn ddibynnol ar gyffuriau.

  • Amcangyfrifir bod rhyw 2 filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn gaeth i gyffuriau dros y cownter.

  • Mae gan dros 300,000 o ddynion anhwylder bwyta – cynnydd o fwy na 70% yn y 6 mlynedd hyd at 2017.

  • Mae mwy na 2 filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig naill ai â phroblem gamblo neu mewn perygl o fynd yn gaeth iddo.

oMae 12.5% o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn dioddef gyda phroblem iechyd meddwl.

Mae cymorth ar gael - 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Llinell Gymorth C.A.L.L.

Gall unrhyw un sy'n poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind gael mynediad i wasanaeth llinell gymorth C.A.L.L. sy'n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol 24/7.

Rhif ffôn: 0800 132 737 neu Tecstiwch help i:  81066 Gwefan: Ffoniwch y Llinell Gymorth

DAN - Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Ddwyieithog AM DDIM

Gallwch ffonio DAN 24/7 ar 0808 808 2234 unrhyw bryd o'r dydd neu'r nos neu tecstiwch DAN i  81066 a byddant yn rhoi cymorth a chyngor i chi.

Ein Noddwyr

A.D. Wheeler
Gatewen Training Services
A.N. Richards
Baabaa Design
24-7 Recruitment Services
Challenger Mobile Communications
Platts Agriculture
Fibrax
Mindful Training
McLintocks Accountants
Jolliffes Solicitors
Cambria Dental Practice