Mae iechyd meddwl yn hawl ddynol gyffredinol

Mental health is a universal human right

Bob blwyddyn, mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn cael ei ddathlu ar 10 Hydref. Thema eleni, a osodwyd gan Sefydliad Iechyd Meddwl y Byd, yw 'Mae iechyd meddwl yn hawl ddynol cyffredinol'.  

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a sbarduno newid cadarnhaol i iechyd meddwl pawb, ac yma yn Pwrpas, rydym ar genhadaeth i ledaenu’r neges ymwybyddiaeth iechyd meddwl ymhlith dynion.

Mae llawer o ddynion ar draws y DU ar hyn o bryd yn profi mwy o orbryder ac iselder, neu’n troi at fwy o ddefnydd o sylweddau, yn enwedig wrth wynebu heriau chwyddiant, yr argyfwng costau byw, tlodi tanwydd a thensiynau byd-eang ehangach. Mae cyfran fawr o ddynion y DU bellach yn honni bod cyfuniad o rai neu bob un o’r uchod wedi cael effaith ddifrifol ar eu hiechyd meddwl, ac yma yn Pwrpas, credwn fod cyflwr presennol iechyd meddwl yn y DU yn prysur ddod yn argyfwng iechyd cyhoeddus.

Ym mis Hydref eleni, wrth i ni ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, gallwch ymuno â ni i gynnig gobaith i ddynion unigol a’u teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan salwch meddwl. A fyddech cystal â rhoi rhodd o unrhyw faint i gefnogi ein gwaith hanfodol, ein helpu i gyrraedd dynion lleol a'u cyfeirio at y doreth o gymorth iechyd meddwl sydd ar gael. 

I gael rhagor o wybodaeth am waith Pwrpas ac i weld sut mae eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth, ewch i pwrpas.com 

I wneud cyfraniad, ewch i: https://www.justgiving.com/campaign/donate2pwrpas

Ein Noddwyr

A.D. Wheeler
Gatewen Training Services
A.N. Richards
Baabaa Design
24-7 Recruitment Services
Challenger Mobile Communications
Platts Agriculture
Fibrax
Mindful Training
McLintocks Accountants
Jolliffes Solicitors
Cambria Dental Practice